Cartref > Newyddion > Diwrnod y Gwenyn

Diwrnod y Gwenyn

Roedd Ysgol Gymraeg Trefynwy yn llawn gweithgaredd wrth i ddisgyblion a staff ysgol gynradd Gymraeg ddiweddaraf Sir Fynwy fwynhau diwrnod llawn hwyl o gelf, crefftau, straeon, cân a dawns i nodi Diwrnod Gwenyn y Byd, a ddathlwyd yn flynyddol ar 20 Mai. Mwynhaodd y disgyblion lu o weithgareddau cysylltiedig â gwenyn o wisgo i fyny, peintio a gwneud collages. Fodd bynnag, heb os, uchafbwynt y diwrnod oedd ymweliad yr awdur a'r athrawes leol, Mrs Carys Glyn.

Wedi'i hysbrydoli gan ei llyfr Criw'r Coed a'r Gwenyn Coll, cadwodd Carys y disgyblion yn ddifyr gyda gweithdy bywiog a dramatig yn llawn straeon, darlunio a dawnsio. Mae gan y stori neges bwysig, mae'n gwneud plant ac oedolion fel ei gilydd yn ymwybodol o'r rôl hanfodol y mae gwenyn yn ei chwarae yn ein hecosystem, ac mae hefyd yn cyflwyno pobl ifanc i'r materion sy'n ymwneud â newid hinsawdd.

  • Plentyn yn addurno plat papur
  • Awdur lleol yn diddanu'r plant

Pôb stori newyddion