Gweler isod ‘Cylchlythr Beth sy’n Digwydd’ ar gyfer mis Rhagfyr wedi’i atodi; mae’n fis prysur a chyffrous gyda llawer o weithgareddau Nadoligaidd wedi’u cynllunio! Peidiwch ag anghofio bod y calendr ar ein gwefan ysgol www.ysgolgymraegtrefynwy.cymru hefyd yn cynnwys manylion am ein digwyddiadau a’n gweithgareddau. Cofiwch fod dydd Gwener, 5ed Rhagfyr yn ddiwrnod hyfforddi staff ac ni fydd yr ysgol ar agor i ddisgyblion. Fel y soniwyd yn y digwyddiadur, bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn fuan ar gyfer rhai o’r gweithgareddau; fodd bynnag, peidiwch ag oedi i gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.
🎄 Prynhawn Agored a Gweithdy i’r Teulu: 3ydd o Rhagfyr, 2yp Mae hwn yn gyfle gwych i weld amgylchedd ein hysgol a ddarganfod beth mae eich plant yn ei brofi bob dydd. Yn ystod y prynhawn, byddwn yn rhannu cyflwyniad byr yn egluro ein cwricwlwm a’n datblygiadau o ran addysgu a dysgu. Bydd gennych hefyd y cyfle i gymryd rhan mewn ambell gweithgaredd Nadoligaidd gyda’ch plentyn/plant. Rydym yn edrych ymlaen at dreulio prynhawn hyfryd gyda chi.


